Loading Events
  • Digwyddiad wedi bod.

Antiques Roadshow Castell Caerdydd

6th Medi

Free

Mae’n amser codi llwch oddi ar eich trysorau ar gyfer diwrnod gwych allan am ddim wrth i raglen nos Sul BBC One sydd bob amser yn boblogaidd , sef Antiques Roadshow, ddod i Gastell Caerdydd ar ddydd Mercher 6 Medi.

Bydd llawer o arbenigwyr blaenllaw ar hen bethau a’r celfyddydau cain ym Mhrydain wrth law i gynnig cyngor a phrisiadau am ddim i’r ymwelwyr, a wahoddir i chwilio yn eu hatigau a dod ag eiddo etifeddol eu teuluoedd, trysorau’r cartref a bargeinion arwerthiant cist y car i’w hymchwilio gan yr arbenigwyr.

Mae croeso i ymwelwyr ymddangos ar y diwrnod, ond os bydd ganddynt eitem sydd â stori arbennig o anarferol iddi, neu efallai casgliad diddorol, neu eitemau dodrefn mawr, gallant roi gwybod i ni ymlaen llaw trwy’r ddolen Share Your Story ar  www.bbc.co.uk/antiquesroadshow

Fel arall, e-bostiwch: antiques.roadshow@bbc.co.uk neu ysgrifennwch at Antiques Roadshow, BBC, Whiteladies Road, Bryste BS8 2LR.

Sylwer, mae hwn yn ddigwyddiad awyr agored, felly rydym yn dweud wrth bob ymwelydd i wisgo yn unol â hyn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gynllunio eich ymweliad ar www.bbc.co.uk/antiquesroadshow

Mynediad am ddim.

Sylwer mai dim ond ar daith dywys y caniateir mynediad i’r tŷ ac y bydd rhaid talu pris mynediad.  Bydd Amgueddfa Firing Line ar gau ac ni fydd tywysyddion sain ar gael.

 

Manylion

Date:
6th Medi
Cost:
Free
Event Category:

Lleoliad

Castell Caerdydd
Heol y Castell Caerdydd
Cymru Y Deyrnas, CF10 3RB United Kingdom
+ Google Map