St David's Day Celebrations & Parade
To celebrate St David’s Day the city will see the annual parade through the city centre. Returning to the parade this year will be the Giants of Wales, introduced last year by local school children. The giant figures of Shirley Bassey and Owain Glyndwr will be joined this year by three new giants; can you guess who they will be?
Everyone is welcome to join in on the Parade, which takes place over lunchtime, ideal for those of you who work or are simply having a leisurely day in the city centre. We would love to see you there, whether it simply to cheer those taking part or actually join the parade itself. If you can, please come along in traditional Welsh costume or simply dressed in our national colours.
The National St David’s Day Parade
Cardiff Civic Centre
Thursday 1st March 2012
11.30am: Meet at Civic Centre, Cathays Park between City Hall and the Law Courts
12:30pm: Parade begins
1.15pm: To showcase the fact that Wales is the ‘land of song’ a rendition of the national anthem will be conducted in the Hayes.
Route:
The Parade will begin by travelling along Kingsway past the castle, down St Mary Street and along Mill Lane ending at the Hayes.
"Os y chi'n caru Cymru, dylech chi fod yna!"
"If you love Wales, you should be there!
----------------------------------------------------------------------------------------------------
Bydd yr orymdaith flynyddol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn mynd drwy ganol y ddinas eto eleni. Bydd Cewri Cymru yn eu holau, ar ôl eu hymddangosiad cyntaf llynedd, diolch i ddychymyg plant ysgol lleol. Bydd tri chawr newydd yn ymuno â Shirley Bassey ac Owain Glyndwr eleni. Tybed allwch chi ddyfalu pwy fyddan nhw?
Mae croeso i bawb i ymuno â’r Orymdaith sy’n cael ei chynnal dros amser cinio, sy'n ddelfrydol i'r rheiny ohonoch sy'n gweithio, neu'n cael diwrnod hamddenol yng nghanol y ddinas. Byddem ni wrth ein bodd pe baech yn ymuno â ni, i gerdded yn yr orymdaith neu i wylio o’r ymylon. Os gallwch chi, dewch yn eich gwisg Gymreig neu yn ein lliwiau cenedlaethol.
Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gŵyl Dewi
Canolfan Ddinesig Caerdydd Dydd Iau 1 Mawrth 2012
11.30am: Cwrdd yn Y Ganolfan Ddinesig, rhwng Neuadd y Ddinas a’r Llysoedd Barn
12:30 pm: Cychwyn yr Orymdaith
1.15pm I ddathlu Cymru fel Gwlad y Gân, bydd yr anthem genedlaethol yn cael ei harwain yn yr Aes!
Llwybr yr Orymdaith.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn ar hyd Ffordd y Brenin heibio’r castell, lawr Heol Eglwys Fair ac ar hyd Lôn y Felin yn diweddu yn yr Aes.
.gif)
.gif)
.gif)
.gif)








































