What are you looking for?
Smut Slam: Cuddle Up
Dates(s)
22 Nov 2024
Times
20:30 - 22:30
Event Info
Teimlo’n oer? Bydd Smut Slam yn eich CYNHESU.
Mae’r sesiwn meic agored adrodd straeon cyffrous ar sail bywyd go iawn, chwant go iawn a rhyw go iawn ‘nôl gyda’r thema “CWTSHO”. Lleoedd tân a siocled poeth, aduniadau grŵp ar y gwely mwyaf erioed, neu adegau cysurus mewn mannau cyfyng… gyda’r slam yma, rydyn ni’n chwantus am “hygge”!
Wedi’i greu a’i gyflwyno gan y pyrf proffesiynol Cameryn Moore, mae Slut Slam yn cynnwys straeon person cyntaf bywyd go iawn am ryw gan y gynulleidfa, hanesion gan feirniaid gwadd, a darlleniadau o ‘The F*ckbucket’, cynhwysydd cyfleus ar gyfer eich holl gwestiynau a chyfaddefiadau dienw!
Pwysig: Mae Smut Slam yn cwiar-gyfeillgar, cinc A fanila-gyfeillgar, tew-gyfeillgar, gweithwyr rhyw-gyfeillgar, gwyryf-gyfeillgar, amlgarwriaeth-gyfeillgar, rydyn ni’n gyfeillgar iawn iawn. Rydyn ni’n croesawu pobl sydd â phob math a lefel o brofiadau rhywiol.